Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog |
Lleoliad: |
Lleoliad allanol |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 9 Hydref 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
13. - 15.30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding AC (Cadeirydd) Elin Jones AC (yn lle Jocelyn Davies AC) Paul Davies AC Joyce Watson AC (yn lle Ann Jones AC) Eluned Parrott AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carys Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Llywodraeth Cymru Carwyn Jones AC, Y Prif Weinidog |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Alys Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd.
1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies ac Ann Jones. Dirprwyodd Elin Jones ar ran Jocelyn Davies a dirprwyodd Joyce Watson ar ran Ann Jones.
2 Sesiwn Graffu ar waith y Gweinidog
2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Prif Weinidog am y goblygiadau i Gymru yn dilyn y refferendwm dros annibyniaeth yr Alban a materion o bwysigrwydd lleol i ardal gorllewin Cymru.
2.2 Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i’r Prif Weinidog. Roedd y cwestiynau wedi’u cyflwyno gan y cyhoedd drwy’r cyfryngau cymdeithasol a gan ddisgyblion nifer o ysgolion uwchradd.
3 Papurau i'w Nodi (15:15 - 15:20)
Nododd yr Aelodau’r ddau bapur.
3.1 3.1 Papur i'w Nodi 1
3.2 3.2 Papur i'w Nodi 2
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer Eitem 5 ar yr Agenda.
5 Trafod y Dystiolaeth o'r Sesiwn Flaenorol (15:20 - 15:30)
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog yn ystod y sesiwn graffu yn gynharach.